Cronfa Rhondda
Croeso i wefan Cronfa Rhondda.
Beth yw Cronfa Rhondda?
Ar adeg cau ffatri Burberry, addawodd y cwmni y byddai e’n rhoi £150,000 y flwyddyn am 10 mlynedd i cronfa elusennol yn y Rhondda er mwyn rhoi cyfleoedd addysg a hyfforddi i bobl Cwm Rhondda. Bydd e'n rhoi cyfanswm o £1.5 miliwn. Cafodd Cronfa Rhondda ei sefydlu yn 2007 yn fodd o gasglu arian Burberry a'i gwneud hi'n bosibl i unigolion a chyrff yng Nghwm Rhondda fanteisio ar grantiau. Mae hawl gyda'r Ymddiriedolaeth i dderbyn rhoddion trwy ffynonellau eraill yn ogystal.
Pwy sy’n cael cyflwyno cais?
• Dyma’r mathau o gyrff sy'n cael gwneud cais am yr arian yma: cyrff cymunedol a/neu elusennol gwirfoddol sydd wedi'u cyfansoddi’n briodol, ac sy’n gweithredu yng Nghwm Rhondda Fawr a Chwm Rhondda Fach yn unig; cyrff cenedlaethol neu ranbarthol, ar gyfer gwaith a wneir yng Nghymoedd Rhondda.
• Mae croeso i unigolion sy’n byw yng Nghymoedd Rhondda gyflwyno cais am arian yn ogystal.
At ba ddibenion gaiff dderbyn arian?
• Cynlluniau a fydd yn gwella'r cyfleoedd addysg, hyfforddi a meithrin medrau sydd ar gael i bobl yng Nghymoedd Rhondda.
• Cynlluniau Addysg a Hyfforddi ar gyfer unigolion sy'n byw yng Nghymoedd Rhondda.
• Bydd yn well gyda'r Ymddiriedolaeth ariannu cynlluniau newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i Gwm Rhondda yn y tymor hir.
Dyma rai mathau o brosiectau a allai fod yn gymwys:
• Cynlluniau sy’n rhoi cyfleoedd addysg, meithrin medrau a gwella gallu ar gyfer pobl Cwm Rhondda yn ogystal â rhoi cymorth iddyn nhw gael swydd
• Prynu cyfarpar neu offer
• Talu ffïoedd cyrsiau addysg a hyfforddi
• Grantiau ar gyfer teithio yn y DG neu dramor er dibenion addysg a hyfforddiant
Rhaid i unrhyw brosiect sy’n cael cymorth o’r grant yma fod ar agor ac ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.
Am faint o arian ga i wneud cais?
• Mae hawl gyda chyrff gyflwyno cais am hyd at £15,000 y flwyddyn dros gyfnod o 3 blynedd
• Mae hawl gydag unigolion gyflwyno cais am hyd at £2,500 y flwyddyn dros gyfnod o 3 blynedd
Dyma rai mathau o ddibenion na fyddan nhw’n gymwys:
• Unrhyw gostau y dylai corff statudol dalu amdanyn nhw.
• Ôl-daliadau am brosiectau sydd wedi cael arian yn barod.
Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais?
29ain Awst 2008 fydd y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais wedi’u llenwi.
Beth sydd raid imi’i wneud nesaf?
Hoffech chi ffurflen gais, neu ragor o gymorth neu arweiniad? Ffoniwch Garfan Materion Adfywio’r Bröydd ar 01443 665789.
Carfan Materion Adfywio a Datblygu
Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa’r Navigation
Abercynon
CF45 4SN